EIN CEFNDIR
Y TEULU BAKER
EIN TEULU
Popty teuluol ym Mhenegoes ger Machynlleth yw Rhyg a Rhosod (Rye and Roses), heb fod ymhell o gartref Jane, Tom a Reuben Baker. Gartref, rydym yn datblygu ffordd o fyw eithaf hunangynhaliol yn ein tŷ, gardd a rhandir ychwanegol ar dir ffermio gerllaw. Rydym yn gwneud a thyfu bwyd o'r newydd, yn eplesu ac yn preserfio - ac, wrth gwrs, yn pobi bara surdoes a chynnyrch crwst bendigedig i'w gwerthu, yn ogystal â'ch dysgu chi sut i'w gwneud.
Rydym yn tyfu rhai o'n cynhwysion ein hunain ar raddfa fechan ar gyfer bara, cynnyrch crwst a digwyddiadau. Mae'r cynhwysion hyn yn cynnwys gwenith, ffrwythau, perlysiau a llysiau. Fel rhan o hyn, rydym yn gweithio gyda ffermwyr a thyfwyr lleol, a chymdogion yn ardal Machynlleth, i dreialu tyfu gwenith ym Mro Ddyfi.
Mae Rhyg a Rhosod (Rye and Roses) yn dwyn ynghyd sgiliau a diddordebau Jane a Tom. Arferai Tom fod yn faethegydd, ac mae wrth ei fodd yn pobi bara surdoes, twrio am fwyd, eplesu a choginio. Mae gan Jane ddiddordeb mawr mewn tyfu bwyd, a mwy na 15 mlynedd o brofiad o weithio yn y maes cyfathrebu yn y sector elusennol ar gyfer sefydliadau amgylcheddol, addysgol, tyfu bwyd a chelfyddydol.
EIN HENW
Mae Rhyg a Rhosod (Rye and Roses) wedi'i leoli ym Mhenegoes ger Machynlleth. Mae'n ardal yng nghanolbarth Cymru lle'r oedd melinau grawn gweithredol yn arfer sefyll, lle'r oedd coed yn doreithiog, a lle mae'n bosib fod 'Rhyg' wedi tyfu ar un adeg. Mae'r enw Rhyg a Rhosod yn cyfeirio at hanes ffermio lleol, ond mae hefyd yn adleisio'r ymadrodd 'Bread and Roses' a ddefnyddiwyd gyntaf gan Helen Todd (suffragette) yn America ym 1910. Yr hawl i fwy mewn bywyd: urddas, parch a'r cyfle i ffynnu (rhosod), yn ogystal â'r hanfodion mewn bywyd (bara).
EIN TAITH
Yn 2009, gwnaethom sefydlu popty a gefnogwyd gan y gymuned, yn ein cartref bryd hynny yn ne Birmingham. Byddai Tom yn pobi bara ar gyfer ein cymdogion unwaith yr wythnos gan ddefnyddio popty tân coed yn yr ardd, ac yn dysgu hen sgiliau bwyd o'n cegin fechan. Yn 2012, wrth i'r galw dyfu'n rhy fawr i'n tŷ, gwnaethom agor Loaf Community Bakery and Cookery School ar stryd fawr Stirchley yn Birmingham gyda chymorth ein cymuned leol, 'bondiau bara' a chefnogwyr ymroddgar. Heddiw, mae Loaf yn fenter gydweithredol sy'n ffynnu, ac mae ganddi enw da yn rhyngwladol.
Dechreuodd diddordeb Jane yn yr amgylchedd a garddwriaeth gynaliadwy dyfu, wedi iddi gael ei hysbrydoli gan ei theulu, y gymuned a'r sefydliadau roedd yn gweithio iddynt (Oxfam, Northfield Ecocentre, Garden Organic).
Ym mis Ebrill 2017, pan oedd Reuben yn flwydd oed, gwnaethom gychwyn ar gyfnod sabothol fel teulu, er mwyn casglu syniadau ar gyfer busnes newydd a dod o hyd i gartref newydd. Gwnaethom dreulio saith mis yn ymweld â sefydliadau paramaethu, bwyd a thyfu bwyd, yn ogystal ag eco-bentrefi, ar gyfandir Ewrop, yng Nghymru, yn Lloegr ac yn Iwerddon.
Ym mis Ebrill 2018, daethom o hyd i'n cartref newydd a setlo ym Machynlleth - lle llawn pobl o fryd tebyg a gwybodaeth am ffermio, lle gallwn rannu ein syniadau a'n sgiliau gyda'n gilydd mewn cymuned greadigol, llawn bwrlwm.
YCHYDIG O HANES Y TEULU
Yng Nghanada ym 1870, rhoddodd hen, hen, hen daid Tom, sef Joseph Baker, batent ar y sgŵp a gogr blawd llaw, a grëwyd yn wreiddiol ar gyfer ei wraig. Dyma oedd dechrau yr hyn a ddaeth i fod yn Baker Perkins, cwmni rhyngwladol yn cynhyrchu poptai, cymysgwyr a pheiriannau eraill ar gyfer y diwydiant pobi.
YCHWANEGU AT EIN TÎM
Yn 2020, gwnaethom groesawu Sam Wren Lewis i'n tîm yn Rhyg a Rhosod. Mae Sam yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn ysgrifennu am wyddor hapusrwydd, ond yr hyn sy'n gwneud iddo deimlo fwyaf hapus yw tyfu gwenith treftadaeth a phobi (a bwyta!) bara surdoes. Mae ganddo ddiddordeb yn y dull 'o'r hedyn i'r dorth' o wneud bara - y ffordd y gall bara gysylltu pobl â'r byd naturiol a gyda'i gilydd.